Yswirio eich pethau
Trwy sicrhau fod gennych yswiriant cynnwys, bydd gennych dawelwch meddwl os bydd plâu yn achosi unrhyw ddifrod.
Does neb eisiau rhannu eu cartref gyda phlâu fel cnofilod a neu bryfed and mae yna rai pethau y gallwn eu gwneud i geisio’u hatal.
Gwnewch yn siŵr bod eich cartref a’ch gardd yn rhydd o sbwriel a allai ddenu llygod a gwiriwch eich cartref am bwyntiau mynediad fel fentiau neu dyllau yn y briciau, a allai rhoi lle i gnofilod, cacwn neu bryfed eraill wneud eu nythod neu ddod i mewn i’ch cartref. Os cewch hyd i unrhyw bwyntiau mynediad o’r fath yn eich cartref, yna dywedwch wrthym ni cyn gynted â phosibl a byddwn yn gallu cael golwg arnyn nhw.
I gadw’ch cartref yn glir o sbwriel, defnyddiwch y biniau olwyn neu’r sachau sy’n cael eu darparu gan eich cyngor, ac os oes gormodedd o sbwriel gyda chi, defnyddiwch domen eich awdurdod lleol neu trefnwch i gludwr gwastraff trwyddedig ei gludo i ffwrdd.
Mae cnofilod fel y rhain yn lledaenu heintiau trwy eu dŵr a’u hysgarthion. Gallan nhw hefyd achosi difrod i’ch cartref, gan gynnwys cnoi gwifrau trydan.
Gallech brynu trapiau o siopau lleol i geisio eu rheoli, ond mae’n gallu bod yn anodd iawn cael gwared arnyn nhw eich hunan. Rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â’r awdurdod lleol neu’n defnyddio cwmni rheoli plâu lleol a chael help proffesiynol. Os ydyn nhw’n dod i mewn i’ch cartref, cysylltwch â ni i roi gwybod i ni ble maen nhw’n dod i mewn.
Mae cacwn yn hoffi gwneud eu nythod mewn mannau cysgodol – mewn perthi, llofftydd, siediau, ceudodau waliau ac o dan fargodion.
Gall fod yn beryglus mynd yn agos at nyth cacwn felly mae’n syniad da cael cymorth arbenigwyr i’w dynnu i ffwrdd.
Dylech gysylltu â’ch awdurdod lleol am gymorth i gael gwared arnyn nhw. Os oes nyth cacwn wrth eich tŷ yna cysylltwch â ni i roi gwybod i ni a gallwn drefnu i gael gwared arno.
Mae gwenyn mewn perygl a dylai nythod gael eu tynnu ymaith dim ond os ydyn nhw’n fygythiad i bobl gyfagos.
Os cewch hyd i nyth neu haid yna gallwch gysylltu â Chymdeithas Gwenynwyr Prydain gallu helpu i dynnu’r nyth heb ladd y gwenyn.
Os yw plâu wedi difrodi adeiledd eich cartref byddwn yn trefnu atgyweirio’r difrod hwnnw.
Serch hynny, os achoswch chi ddifrod trwy fethu ag atal neu drin problem plâu, yna efallai na fyddwn yn gwneud atgyweiriadau, neu efallai byddwn yn codi cost yr atgyweiriad arnoch chi.
Os yw plâu wedi difrodi eich dodrefn neu eiddo, rydych chi’n gyfrifol am eu hatgyweirio neu eu hamnewid. Efallai hoffech chi wirio bod eich yswiriant cynnwys cartref yn talu am ddifrod gan blâu.
Byddwn yn cael gwared ar blâu o fannau cymunedol. Dywedwch am blâu mewn mannau cymunedol trwy eich cyfrif Melin neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt.
Trwy sicrhau fod gennych yswiriant cynnwys, bydd gennych dawelwch meddwl os bydd plâu yn achosi unrhyw ddifrod.
Os ydych chi wedi gwirio’r wybodaeth am blâu uchod ac angen rhoi gwybod i ni am broblem plâu, ewch at ein tudalen gyswllt.