Beth sy’n newid ynglŷn â’r Ddeddf Rhentu Cartrefi?
Darllenwch am y Ddeddf a’r pwyntiau allweddol i fod yn ymwybodol ohonyn nhw.
Yn ôl i Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru)
Bydd y Ddeddf Rhentu Tai (Cymru) yn disodli’r ddeddfwriaeth dai bresennol. Ei bwriad yw pennu un fframwaith cyfreithiol sengl ar gyfer rhentu cymdeithasol a phreifat, gan alluogi ‘un tenantiaeth gymdeithasol’ ar gyfer Cymru.
Daw’r Ddeddf i rym ar 1af Rhagfyr 2022 a bydd yn diwygio cyfraith ac arferion tai yng Nghymru yn arwyddocaol.
Mae’r Ddeddf yn rhoi mwy o eglurder ar hawliau a chyfrifoldebau i’n cwsmeriaid ac i ni fel landlord, drwy gontractau ysgrifenedig. Ar hyn o bryd, gelwir hwn yn gytundeb tenantiaeth. At hyn, bydd y Ddeddf yn safoni cytundebau tenantiaeth.
Os daethoch yn denant cyn 1af Rhagfyr 2022, byddwch yn cael eich newid yn awtomatig i Gontract Meddiannaeth newydd.
Byddwch yn derbyn eich Contract Meddiannaeth newydd unrhyw adeg rhwng 1af Rhagfyr 2022 a’r 1af Mehefin 2023.
I denantiaid newydd (a elwir yn ddeiliaid Contract) ar neu ar ôl 1af Rhagfyr 2022, byddwch yn derbyn contract ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod o’r dyddiad meddiannaeth.
Os bydd deiliad contract yn torri amodau ymddygiad gwrthgymdeithasol y contract, bydd Cartrefi Melin yn gallu o hyd wneud cais am waharddeb sifil a chychwyn camau llys os oes angen. Gellir hefyd dal deiliad y contract yn gyfrifol am ymddygiad unrhyw un arall sy’n byw yn y cartref neu’n ymweld â’r cartref.
Gall amodau ymddygiad gwrthgymdeithasol y contract gynnwys sŵn gormodol, trais llafar, ymosodiad corfforol. Mae hefyd yn cynnwys camdriniaeth domestig (yn cynnwys camdriniaeth gorfforol, emosiynol a rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol).
Bydd y Ddeddf yn ei gwneud yn haws i ychwanegu neu dynnu rhywun oddi ar gyd-gontract, heb yr angen i’r contract ddod i ben i bawb.
Bydd pob deiliad contract yn cael datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth.
Mae Ffitrwydd i Fod yn Gartref (FFHH) yn golygu bod yn rhaid i bob landlord sicrhau bod eu heiddo yn addas i bobl fyw ynddynt. Rhaid iddynt sicrhau eu bod yn ddiogel, iach ac yn rhydd rhag pethau a allai achosi niwed difrifol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi mwy o fanylion ar y 29 mater a’r amgylchiadau ar gyfer FFHH a gallwch weld y rhaid drwy fynd i’w gwefan.
Ni fydd deiliad contract yn atebol i dalu rhent am unrhyw gyfnod pan dybir nad yw’r eiddo yn ffit, ac ni fydd landlord yn gallu cyflwyno Hysbysiad Landlord, na chymal torri os nad ydynt yn cydymffurfio gyda’r gofynion Ffitrwydd.
Os bydd deiliad contract yn credu nad yw eiddo yn ffit, ond nid ydym yn cytuno, mater i’r llys fyddai yn y pen draw i benderfynu os yw cartref yn anaddas yn seiliedig ar y safonau a nodir yn y Rheoliadau.
Byddai cais i’r llys yn cael ei wneud yn yr ffordd ag yr ydych yn gwneud cais cyflwr gwael.
Darllenwch am y Ddeddf a’r pwyntiau allweddol i fod yn ymwybodol ohonyn nhw.
Rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl ar gyfer eich cartref mewn perthynas â diogelwch tân a thrydan.