Polisi Cwcis This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.
Tudalen Breifatrwydd

Yn ôl i Eich cartref

Gwella ac addurno’r cartref

Darlun o rholer yn paentio wal

Gwneud newidiadau a gwelliannau i’ch cartref

Ydych chi'n bwriadu gwneud newidiadau i'ch cartref? Os felly, rhowch wybod i ni drwy wneud cais am ganiatâd.

Mae'n rhaid i chi gael ein caniatâd cyn i chi wneud unrhyw newidiadau i'ch cartref, fel y gallwn sicrhau bod ein heiddo'n parhau'n ddiogel ac yn addas i bobl fyw ynddo nawr ac yn y dyfodol. Byddwn yn ystyried pob cais i wneud newidiadau ac ni fyddwn yn gwrthod caniatâd yn afresymol. Efallai y bydd angen i syrfëwr ymweld â chi i
archwilio'ch eiddo cyn i ni roi caniatâd.

Efallai y bydd angen i chi hefyd gael caniatâd cynllunio neu gymeradwyaeth rheoli adeiladu gan y cyngor, yn dibynnu ar raddfa'r gwaith. Anfonwch gopïau o'r gymeradwyaeth hon cyn i chi ddechrau'r gwaith. Os ydych yn lesddeiliad efallai y bydd angen i chi hefyd ofyn am gymeradwyaeth gan eich benthyciwr morgais.

Beth sydd angen caniatâd ar ei gyfer?

Newid ffenestri / drysau mewnol neu allanol

  • Newid cegin /ystafell ymolchi.
  • Codi erial / dysgl lloeren.
  • Newidiadau i gynllun eiddo ee tynnu waliau (D.S: byddai angen adroddiad strwythurol gan syrfëwr cyn cael cymeradwyaeth i dynnu wal i lawr).
  • Gosodiadau trydanol newydd.
  • Gosod peiriant coginio nwy hy popty, popty mawr, pentan.
  • Trawsnewid yr atig.
  • Codi porth.
  • Creu man parcio (dreif).
  • Newid cynllun eich gardd.
  • Newid neu ailosod ffensys/wal ffin sydd eisoes yn bodoli.
  • Unrhyw newidiadau i unrhyw rhai o’r adeiladau tu allan.
  • Gosod Teledu Cylch Cyfyng (CCTV).

Nid yw’r rhestr hon yn gyflawn. Os ydych yn ansicr, anfonwch rai manylion atom a byddwn yn rhoi gwybod i chi a oes angen caniatâd ai peidio. Os bydd unrhyw waith yn cael ei wneud heb ganiatâd, efallai y bydd angen i chi ddychwelyd yr eiddo i'w gyflwr gwreiddiol, neu byddwn yn gwneud y gwaith ac yn gorfod codi tâl amdano.

Mae gennych chwe mis i gwblhau'r gwaith ar ôl cael caniatâd. Unwaith y bydd ygwaith wedi'i orffen, gofynnwn am gopïau o unrhyw ganiatâd arall yr ydych chi wedi'i dderbyn ee cynllunio a rheoli adeiladu. Hoffem hefyd weld copïau o unrhyw dystysgrifau ar gyfer gwaith gosod trydan, nwy a ffenestri.

Newidiadau nad oes angen cymeradwyaeth

Mae rhai pethau nad ydyn nhw angen caniatâd gennym ni. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Gosod mesurydd dŵr.
  • Gwaith gardd graddfa fach, cyn belled â nad oes gwaith trydanol, newidiadau strwythurol neu ddefnyddio dŵr.
  • Addurno neu ddodrefn meddal megis llenni neu fleindiau.

Mae croeso i chi wneud eich eiddo yn gartref i chi eich hun drwy beintio, gosod papur wal neu ychwanegu dodrefn meddal. Efallai bod asbestos yn rhai o’n cartrefi hŷn, nad yw’n niweidiol os nad oes unrhyw beth yn aflonyddu arno.

Os ydych yn penderfynu addurno

Os ydych yn addurno, gwnewch yn siŵr:

  • Eich bod yn gwlychu unrhyw bapur wal cyn ei dynnu. Os oes modd, defnyddiwch beiriant ager ac yna tynnu’r papur yn ofalus cyn ail-addurno.
  • Peidiwch â drilio, sandio, lifio neu aflonyddu ar unrhyw ddeunyddiau sy’n cynnwys asbestos sydd mewn cyflwr da.
  • Peidiwch â gwneud unrhyw waith DIY ar unrhyw ran o’ch cartref a allai gynnwys asbestos. Gofynnwch am gyngor gennym ni yn gyntaf.
  • Peidiwch â cheisio tynnu wynebau gweadog (Artex) oddi ar waliau neu nenfydau. Golchwch unrhyw fannau lle mae paent yn plicio cyn ail-beintio.
  • Carpedi, finyl neu loriau laminad. Peidiwch â cheisio codi hen deils llawr neu leino. Gadewch nhw lle maen nhw a gosod gorchudd newydd ar eu pen.
    (Cofiwch y bydd angen trefnu bod drysau’n cael eu haddasu os na fyddant yn cau, gan nad ydyn ni’n darparu’r gwasanaeth yma.)
  • Newid bylbiau golau, plygiau bath, llenni cawod neu seddau toiled.
  • Gosod nwyddau gwyn, megis peiriant sychu dillad, cyn belled â bod cysylltiad gyda’r gwasanaethau yno eisoes.
  • Gosod llinell ffôn BT neu deledu cebl.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi