Cyngor Ariannol
Gallwn eich helpu chi i reoli eich rhent, a gweithio gyda chi i gael atebion os ydych yn ael anhawster i dalu.
Mae Credyd Cynhwysol yn un taliad misol sengl i bobl mewn gwaith neu allan o waith. Mae wedi disodli chwe budd-dal: Lwfans Ceisio Swydd, Lwfans Cymorth a Chyflogaeth, Cymorth Incwm, Credyd Treth Plant, Credyd Treth Gwaith a Budd-dal Tai.
Gallwch weld pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio, gan gynnwys Credyd Cynhwysol, drwy ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau arlein. Mae gan yr elusen genedlaethol, Turn2Us, gyfrifiannell budd-daliadau ar ei gwefan y gallwch ei defnyddio.
I wneud cais am Gredyd Cynhwysol, ewch i wefan Credyd Cynhwysol Llywodraeth y DU.
Rydym yn gofyn i drigolion Melin gysylltu gyda ni cyn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol. Mae hyn yn caniatáu i’n cynghorwyr arbenigol eich helpu gyda’ch cais i wneud yn siŵr eich bod yn derbyn yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.
Byddwch angen yr wybodaeth ganlynol er mwyn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol:
Mae pob cais am Gredyd Cynhwysol yn cael ei reoli drwy borth arlein. Gellir talu Credyd Cynhwysol i gyfrif banc neu Undeb Credyd. Bydd angen i chi drefnu cyfrif er mwyn cael Credyd Cynhwysol. Telir y budd-dal unwaith y mis a gall gymryd pump i chwe wythnos i dderbyn eich taliad cyntaf.
Na, ond gallwch wneud cais ar wahân i’ch Awdurdod Lleol i gael cymorth gyda’r Dreth Gyngor.
Mae nifer o bethau a allai effeithio eich hawl i Gredyd Cynhwysol. Os bydd eich amgylchiadau yn newid mewn unrhyw un o’r ffyrdd isod, dylech gysylltu gyda’r adran lle rydych yn hawlio Credyd Cynhwysol ar unwaith.
Gall newidiadau mewn amgylchiadau gynnwys:
Gallwn. Rydym yn awyddus i glywed gan drigolion sydd eisiau help gyda Chredyd Cynhwysol. Gall ein harbenigwyr cynghori gynnig ystod o gyngor i chi, a gwybodaeth a chyfarwyddyd ar fudd-daliadau, cyllid, cyflogadwyedd a lles.
Gallwn eich helpu chi i reoli eich rhent, a gweithio gyda chi i gael atebion os ydych yn ael anhawster i dalu.
Os ydych yn cael anhawster i dalu eich rhent, holwch i weld sut allwn helpu. Peidiwch ag anwybyddu problemau talu. Bydd un o’n tîm cyfeillgar bob amser yn rhoi cyngor i chi.