Cyngor Ariannol
Gallwn eich helpu i reoli eich rhent a gweithio gyda chi i ganfod ffordd ymlaen os ydych yn ei chael yn anodd i dalu.
Os daw amser pan fyddwch eisiau symud o’r cartref rydych yn ei rentu gan Melin, mae ychydig o bethau y bydd angen i chi eu hystyried:
Mae angen i chi roi pedair wythnos o rybudd i ni i derfynu eich tenantiaeth. Mae’r rhybudd yn cychwyn ar y dydd Llun ar ôl i ni dderbyn eich cais. I derfynu eich tenantiaeth, printiwch y ffurflen terfynu tenantiaeth, ei llenwi i mewn, ei llofnodi a’i hanfon atom ni.
Unwaith y byddwch wedi dweud wrthym eich bod eisiau terfynu eich tenantiaeth, bydd ein Swyddog Cynnal a Chadw yn ymweld â chi. Rydym yn gwneud hyn er mwyn rhoi cyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych ynglŷn â symud.
Pan symudasoch i mewn, roedd eich cartref mewn cyflwr da, ac rydym yn disgwyl iddo fod felly ar gyfer y trigolion newydd. Bydd eich Swyddog Cynnal a Chadw yn trafod unrhyw beth a all fod angen sylw yn ystod eu hymweliad. Efallai y codir tâl arnoch os canfyddir unrhyw ddifrod.
Byddwn yn gwneud popeth y gallwn i’ch helpu chi i glirio unrhyw ôl-ddyledion. Mae ein tîm Cyngor Melin wrth law i drafod unrhyw ddyled rhent sydd gennych.
Fodd bynnag, os na wnewch unrhyw ymdrech i dalu rhent sy’n ddyledus, byddwn ni yn gwneud pob ymdrech i adennill y ddyled. Gall hyn hefyd arwain atom yn rhoi adroddiad anfoddhaol os ceir cais am eirda gan unrhyw landlord yn y dyfodol.
Bydd anwybyddu dyled heb ei thalu yn effeithio ar unrhyw geisiadau am dai cymdeithasol yn y dyfodol.
Os ydych eisiau dychwelyd eich allweddau yn gynnar ac os gallwn ail-osod eich cartref cyn dyddiad olaf eich cyfnod rhybudd, ni fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw rent ar ôl y dyddiad pan fydd y denantiaeth newydd yn cychwyn. Ni fydd hyn yn bosibl bob amser.
Os nad ydych yn dychwelyd eich allweddau tan ar ôl y dyddiad a gytunwyd i derfynu eich tenantiaeth, bydd angen i chi dalu rhent wythnos, a bydd hyn yn parhau bob wythnos nes byddwn yn cael yr eiddo yn ôl.
Pan fyddwch yn gadael yr eiddo, dylid symud ymaith eich holl eiddo a dodrefn.
Yr unig adeg y cewch adael eitemau yw pan dybir y byddai’r preswylydd newydd yn elwa ohonynt, a phan fo hyn wedi ei gytuno gyda ni.
Byddwn ni yn gwaredu unrhyw eitemau a adawir yn yr eiddo, a byddwn yn codi tâl arnoch am symud yr eitemau hyn.
Gall tenantiaid rhagorol ennill £150. Fel tenant sy’n gadael, gallech dderbyn £150 mewn arian yn ôl ar ôl i’r tenantiaeth ddod i ben os byddwch:
Unwaith y byddwn wedi cadarnhau’r uchod i hyd, byddwn yn talu £150 i chi.
Gallwn eich helpu i reoli eich rhent a gweithio gyda chi i ganfod ffordd ymlaen os ydych yn ei chael yn anodd i dalu.
Siaradwch â rhywun ym Melin os oes unrhyw beth yr hoffech ei drafod ynglŷn â therfynu eich tenantiaeth.