Polisi Cwcis This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.
Tudalen Breifatrwydd

Yn ôl i Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Anifeiliaid

Baw cŵn

Rydyn ni i gyd yn caru ein hanifeiliaid ac rydyn ni'n genedl o bobl sy'n hoff o anifeiliaid, ond mae'n bwysig iawn, os yw eich anifail anwes yn baeddu, eich bod chi'n codi’r baw ci ac yn cael gwared arno yn y ffordd gywir.

Os ydych chi'n berchen ar gi neu'n gyfrifol amdano, eich cyfrifoldeb chi yw codi’r baw ci mewn unrhyw fan cyhoeddus.

Tîm iechyd yr amgylchedd yr awdurdod lleol fydd yn gyfrifol am bryderon sy’n ymwneud â baw cŵn mewn man cyhoeddus, fel ar balmant, neu mewn parc. Byddant yn ymchwilio i'r mater ac o bosibl yn rhoi dirwy os oes tystiolaeth i gefnogi’r achos.

Os bydd pryderon am faw cŵn ar dir neu eiddo sy'n eiddo i Melin, byddwn yn gweithio'n agos gyda thîm iechyd yr amgylchedd yr awdurdod lleol i fynd i'r afael â'r mater. Pan fydd tystiolaeth mai un o breswylwyr Melin sy’n cyflawni’r fath droseddau, byddwn yn cymryd mesurau i atal hyn rhag digwydd eto.

Os yw ci yn baeddu ar eiddo preifat (er enghraifft mewn gardd perchennog), mae'n dod yn fater sifil rhwng y ddau barti dan sylw. Mewn sefyllfaoedd o’r fath, er nad oes gan Melin awdurdod uniongyrchol, rydym yn deall y gall materion o’r fath fod yn fregus ac yn rhwystredig. Gallwn gynnig ein gwasanaeth cyfryngu cyfrinachol i helpu i ddod o hyd i ateb adeiladol a chyfeillgar.

Cŵn peryglus

O dan y gyfraith, gellir ystyried unrhyw gi (waeth beth yw ei frîd) yn beryglus, os nad yw’n cael ei gadw dan rheolaeth. Nid oes rhaid i'r ci frathu unrhyw un; gall ymddwyn yn ymosodol sy’n peri i rhywun ofni a theimlo’n anniogel.

Os ydych chi, neu unrhyw un arall yn ofni neu’n teimlo’n anniogel, cysylltwch â’r heddlu ar unwaith i rhoi gwybod iddynt am gi peryglus.

O ran cŵn Bully XL, o 1 Chwefror 2024 mi fydd hi’n drosedd berchen ar y fath yma o gi yng Nghymru a Lloegr oni bai bod gan berchennog y ci Dystysgrif Eithrio ar gyfer ei gi (cŵn). Os ydych chi'n amau bod un o breswylwyr Melin yn berchen ar gi Bully XL, cofiwch mai mater i’r heddlu yw hwn am fod y brîd wedi ei wahardd. Rydym yn eich annog i roi gwybod i'r heddlu am eich pryderon yn uniongyrchol drwy ddeialu 101 neu gwblhau'r ffurflen ar-lein ar eu gwefan. Mae hyn yn sicrhau y bydd y mater yn cael ei gofnodi cyn ymchwilio i’r mater.

Unwaith y byddwch wedi rhoi gwybod i'r heddlu, cysylltwch â ni gyda rhif digwyddiad yr heddlu. Byddwn yn gallu cysylltu â nhw a gweithio gyda nhw a chi i gytuno ar y camau nesaf.

Sŵn anifeiliaid

Mae'n naturiol i gŵn gyfarth. Er, gall fod yn annifyr ac yn ofidus pan fydd yn digwydd yn aml ac am gyfnodau hir o amser. Ystyrir cyfarth yn ymddygiad gwrthgymdeithasol pan fydd y ci’n cyfarth yn barhaus, a hynny’n unig.

Mae hyn yn golygu bod angen i'r sŵn fod yn ddigwyddiad rheolaidd, bob dydd, gyda chyfnodau o gyfarth parhaus.

Byddem yn awgrymu eich bod yn ceisio siarad â'ch cymydog yn gyntaf. Efallai na fyddant yn sylweddoli bod eu ci yn achosi aflonyddwch (yn enwedig os nad ydynt gartref yn ystod y dydd pan fydd y ci yn cyfarth).

Os nad ydych chi'n teimlo'n gyfforddus i fynd at eich cymydog, neu os ydych wedi ceisio ac nid yw'r sefyllfa wedi gwella, dylech gysylltu â thîm iechyd yr amgylchedd eich awdurdod lleol.

Os nad yw'r cyfarth yn cael ei ystyried yn ymddygiad gwrthgymdeithasol, gallwn gynnig i’ch cyfeirio chi a’ch cymydog at ein gwasanaeth cyfryngu cyfrinachol i’ch helpu i ddod o hyd i ateb adeiladol a chyfeillgar.

Os oes gennych bryderon am les anifail anwes, dylech gysylltu â'r RSPCA.

Perchnogaeth gyfrifol

Mae'r gyfraith yn mynnu bod pob ci yn cael microsglodyn sy’n cynnwys manylion cywir y perchennog. Mae hyn yn helpu i gadw cŵn yn ddiogel a gall eich helpu i ddod o hyd i'ch ci os yw'n mynd ar goll.

Gall perchennog ci sydd allan o reolaeth gael dirwy. Dylai anifeiliaid heb eu rheoli sy'n cael crwydro'r stryd heb oruchwyliaeth gael eu hadrodd i'ch awdurdod lleol.

Os oes gennych unrhyw bryderon am les yr anifail, cysylltwch â'r RSPCA.

Os yw’r anifail allan o bob rheolaeth mewn ffordd beryglus a’ch bod yn pryderu am eich diogelwch chi neu ddiogelwch pobl eraill, cysylltwch â’r heddlu ar unwaith.