Polisi Cwcis This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.
Tudalen Breifatrwydd

Yn ôl i Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Cam-drin domestig

Mewn argyfwng

Mewn argyfwng ffoniwch 999.

  • Os ydych mewn perygl yn y fan a’r lle, ffoniwch 999 a gofynnwch am yr Heddlu.
  • Os ydych mewn perygl ac yn methu siarad, gallwch wneud galwad dawel ar 999, pan fydd y person yn ateb y ffôn, efallai y gofynnir i chi besychu neu bwyso’r botymau ar eich ffôn i ateb cwestiynau.

Ffonio 999 o ffôn symudol – Os nad ydych yn siarad neu'n ateb cwestiynau, pwyswch 55 pan ofynnir a bydd eich galwad yn cael ei throsglwyddo i'r Heddlu. Mae pwyso 55 yn gweithio ar ffonau symudol yn unig ac nid yw'n caniatáu i'r heddlu olrhain eich lleoliad. Os na fyddwch yn pwyso 55 bydd eich galwad yn dod i ben.

Ffoniwch 999 o linell tir – Os nad ydych chi'n siarad neu'n ateb cwestiynau a dim ond sŵn cefndir y gall y person sy’n ateb y ffôn ei glywed, byddant yn trosglwyddo eich galwad i'r heddlu. Os byddwch chi’n rhoi’r ffôn i lawr, bydd y cysylltiad dal i fod ar agor am 45 eiliad rhag ofn i chi godi’r ffôn eto. Mae ffonio 999 o linell tir yn caniatáu i’r heddlu wybod eich lleoliad yn awtomatig.

  • I gael cefnogaeth cysylltwch â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn am ddim, ar 0808 801 0800. Mae ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Effaith cam-drin domestig

Gall cam-drin domestig effeithio ar bobl a chymunedau a gadael effaith ddinistriol ar oroeswyr, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach. Gall effeithio ar ddynion a menywod o unrhyw oedran, o unrhyw ddiwylliant neu grefydd. Gall ddigwydd yn y teulu, neu o fewn perthynas heterorywiol neu o'r un rhyw (neu os nad ydych mewn perthynas o gwbl). Gall y dioddefwr fod yn byw gyda’r sawl sy’n ei g/cham-drin, neu ar wahân.

Gall fod sawl math o gam-drin domestig, er enghraifft, corfforol, seicolegol, emosiynol neu rywiol.

Beth i'w wneud os yw’n effeithio arnoch chi

Os ydych chi’n un o breswylwyr Melin ac yn dioddef cam-drin domestig a hoffech gael cyngor a chefnogaeth, cysylltwch â ni ar 01495 745910 neu e-bostiwch enquiries@melinhomes.co.uk. Bydd aelod o staff sydd wedi derbyn hyfforddiant yn delio â’ch ymholiad, mewn ffordd gyfrinachol, anfeirniadol.

Os ydych mewn perygl o fod yn ddigartref ac angen cymorth ar frys, cysylltwch â Thîm Opsiynau Tai eich awdurdod lleol neu Llinell Gymorth Byw Heb Ofn, am ddim.