Polisi Cwcis This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.
Tudalen Breifatrwydd

Yn ôl i Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Cyffuriau

Defnyddio cyffuriau a phrynu a gwerthu cyffuriau

Mae defnyddio cyffuriau a phrynu a gwerthu cyffuriau yn drosedd. Mae angen i chi roi gwybod i'r heddlu.

Er ein bod am fynd i'r afael ag ymddygiad sy’n achosi niwsans, fel landlord, rydym wedi ein cyfyngu o ran sut y gallwn ymateb i weithgarwch troseddol. Mae hyn yn cynnwys defnydd personol o gyffuriau, fel canabis yn cael ei ysmygu yng nghartref person.

Er bod defnyddio canabis yn parhau i fod yn drosedd, mater i'r heddlu fydd cymryd yr awenau a bydd Melin yn gweithio ochr yn ochr â nhw i gynnig ein cefnogaeth a chymorth os fedrwn ni.

Unwaith y byddwch wedi rhoi gwybod i’r heddlu am eich pryder, cysylltwch â ni i roi manylion y digwyddiad, rhif digwyddiad yr heddlu ac os yw’n bosibl, enw’r swyddog sy’n delio â’r mater. Yna byddwn yn penderfynu a allwn ni weithredu.

Os ydych am roi gwybod am ymddygiad troseddol yn ddienw, gallwch hefyd gysylltu â Crimestoppers ar 0800 555 111.

Os nad yw'r sefyllfa'n fater o argyfwng, eto’n un sy’n galw am gyngor ac ymyrraeth gan yr heddlu, rhowch alwad i ni ar 101 neu adroddwch y mater ar lein drwy wefan Heddlu Gwent.

Cofiwch: os oes argyfwng yn y fan a’r lle ac os ydych chi neu unrhyw un arall mewn perygl, ffoniwch 999.

Cogio

Cogio yw pan fydd un sy’n prynu neu werthu cyffuriau, neu griw yn cymryd drosodd cyfeiriad oedolyn sy’n fregus am resymau troseddol, fel arfer fel lleoliad i werthu, storio neu gynhyrchu cyffuriau.

Bydd gangiau'n manteisio ar wendidau unigolyn er mwyn gwneud elw ac osgoi cael eu dal gan yr heddlu. Yn aml, mae cogio yn cael ei ystyried yn rhan o droseddau llinellau cyffuriau sy’n cynnwys gangiau cyffuriau sy’n cam-fanteisio ar blant ac oedolion bregus.

Y rhai sydd fel arfer yn cael eu targedu ar gyfer cogio yw’r:

  • Rhai sy'n dioddef o ddibyniaeth ar gyffuriau a/neu alcohol
  • Rhai sydd â thrafferthion ariannol
  • Yr henoed
  • Pobl â phroblemau iechyd meddwl
  • Pobl ag anableddau dysgu.

Os ydych chi'n adnabod rhywun sy'n cael ei gogio, cysylltwch â’r heddlu. Os ydych chi'n amau bod y cogio yn digwydd yn un o'n heiddo, dylech hefyd roi gwybod i ni.

Os ydy hyn yn digwydd i chi, dywedwch wrth rywun - aelod o’r teulu, ffrind, cydweithiwr, neu’r heddlu.