Polisi Cwcis This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.
Tudalen Breifatrwydd

Yn ôl i Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Cymdogaeth

Grwpiau sy’n aflonyddu

Os yw'r ymddygiad o natur droseddol neu os oes gennych bryderon am eich diogelwch, mae angen i chi roi gwybod i'r heddlu ar unwaith.

Ar ôl i chi rhoi gwybod i’r heddlu am y digwyddiad, gallwch gysylltu â ni i roi gwybod i'n Tîm Diogelwch Cymunedol am yr ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Pobl ifanc yn chwarae / pêl-droed

Ni fyddem yn ystyried bod hyn yn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae gan bobl ifanc yr hawl i chwarae a chymdeithasu â phobl ifanc eraill; mae chwarae yn hanfodol i ddatblygiad plentyn a dylid ei annog.

Nid yw pêl-droed a gemau pêl yn wrthgymdeithasol nac yn anghyfreithlon. Yn aml, efallai na fydd pobl ifanc yn sylwi eu bod yn achosi gofid i bobl eraill.

Ystyriwch y canlynol cyn cwyno:

  • Mae gan bobl ifanc hawl i chwarae, yn enwedig yn eu cymdogaeth eu hunain.
  • Efallai y bydd rhieni/gwarcheidwaid yn dymuno i'w plant ifanc chwarae'n agos at eu cartref er diogelwch.
  • Mae'n rhesymol disgwyl lefel benodol o sŵn gan blant/pobl ifanc yn chwarae ar ôl ysgol, ar benwythnosau a gyda'r nos..
  • Gallwch ddisgwyl gweiddi, bloeddio a chwerthin mewn mannau agored cyhoeddus/ caeau chwarae ac fel arfer nid yw'n cael ei ystyried yn sŵn sy’n achosi niwsans.
  • Mae arwyddion “Dim gemau pêl” mewn mannau cyhoeddus yn gais, nid is-ddeddf – ni ellir eu gorfodi.
  • Nid yw'n anghyfreithlon chwarae pêl-droed ar ymyl glaswelltog neu fan agored.
  • Efallai mai un ardal laswellt sydd ar gael i blant iau chwarae'n ddiogel yn eu cymdogaeth eu hunain.
  • Weithiau mae'n well i bobl ifanc ddefnyddio’u hegni i chwarae chwaraeon yn hytrach na gwneud pethau eraill.
  • Siaradwch â’ch cymdogion i gytuno ar amser a lleoliad i chwarae.
  • Mae mannau agored yno i bawb, gan gynnwys plant a phobl ifanc.
  • Nid yw’n ymddygiad gwrthgymdeithasol pan fydd pobl ifanc yn hongian o gwmpas yn siarad a chwerthin oni bai eu bod yn aflonyddu.

Os yw plant yn chwarae yn achosi difrod i’ch eiddo, dylech roi gwybod i’r heddlu ac i ni.

Parcio rhwystrol

Dylai pob un ohonom wneud ein gorau i barcio'n gwrtais, defnyddio mannau parcio lle y gallwn a pheidio ag achosi unrhyw rwystrau i'r ffordd, i fynediadau neu balmentydd.

Os yw eich cymydog yn parcio mewn ffordd sy'n rhwystro'r mynediad i'ch cartref neu le parcio dynodedig, dechreuwch drwy siarad ag ef yn gyntaf. Efallai nad yw wedi sylwi ei fod yn achosi problem i chi.

Os na fydd hyn yn datrys y mater, gallwch gysylltu â ni a gallwn ni gysylltu â’ch cymydog. Efallai nad yw eich cymydog, neu ei ymwelwyr, yn ymwybodol o’r trefniadau parcio. Gall hyn fod yn wir pan fydd preswylwyr yn newydd i'r ardal.

Fodd bynnag, os yw'r cerbyd ar briffordd gyhoeddus ac yn torri rheoliadau parcio lleol, gallwch gysylltu â’ch awdurdod lleol a all gyflwyno Hysbysiad Tâl Cosb.

Fandaliaeth

Mae fandaliaeth, fel difrod i eiddo neu graffiti, yn ddifrod troseddol a dylid rhoi gwybod i'r heddlu.

Fel arfer, cyfrifoldeb eich cyngor lleol yw delio â fandaliaeth ar bethau fel adeiladau cyhoeddus, henebion, meinciau a biniau.

Os yw graffiti yn sarhaus (hynny yw, yn gysylltiedig â chasineb) neu os yw’n digwydd nawr, cysylltwch â’r heddlu.

Os yw eich cartref neu ran o eiddo Melin wedi cael ei fandaleiddio, rhowch wybod i ni.

Celcio/amodau afiach

Os oes gennych bryderon am un o gymdogion Melin sy’n celcio, neu’n byw mewn amodau afiach, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.

Os ydych chi'n poeni am ddiogelwch rhywun arall, cysylltwch â'r heddlu ar unwaith.