Polisi Cwcis This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.
Tudalen Breifatrwydd

Yn ôl i Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Sŵn

Reporting noise nuisance

O'r holl wahanol fathau o ymddygiad gwrthgymdeithasol yr ydym yn delio ag ef, sŵn sy’n achosi niwsans yw un o'r rhai yr adroddir amdanynt fwyaf.

Nid yw'n afresymol clywed synau fel:

  • Drysau’n clepian.
  • Sŵn pobl yn siarad yn uchel o eiddo cyfagos a/neu ardaloedd cymunedol.
  • Sŵn o fywyd bob dydd, fel babanod yn crio, plant yn chwarae, pobl yn trwsio’u cartrefi, sŵn uchel yn dod o egsôst car neu sŵn o gerbydau sy’n pasio.
  • Partïon neu ddigwyddiadau unigol – fel Noson Tân Gwyllt.

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall sŵn afresymol a gormodol ar unrhyw adeg o'r dydd a'r nos fod yn gythruddol a gofidus iawn.

Bydd Melin yn ystyried sŵn sy’n achosi niwsans yn ymddygiad gwrthgymdeithasol os yw’n barnu bod y sŵn yn annerbyniol, yn uchel dros ben ac yn sŵn parhaus, y byddai’r mwyafrif yn ei ystyried yn afresymol. Yn yr achosion hynny nad ydynt yn cyrraedd y trothwy iddo gael ei ystyried yn ymddygiad gwrthgymdeithasol (er enghraifft, rhoi gwybod am sŵn am y tro cyntaf neu ddigwyddiad unigol), bydd Melin yn annog preswylwyr i ddod o hyd i'w atebion eu hunain. Byddwn yn cynnig arweiniad a chefnogaeth ymarferol i breswylwyr i gynnal sgyrsiau adeiladol a diogel gyda’i gilydd, yn aml drwy benderfyniadau cymunedol fel cyfryngu.

Os yw sŵn sy’n achosi niwsans yn effeithio arnoch chi, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu â ni fel y gall ein tîm Diogelwch Cymunedol glywed y sŵn yr ydych yn cyfeirio ato, er mwyn deall y sefyllfa yn well. Byddant yn ystyried achos, ffynhonnell a hyd y sŵn, ynghyd â'r effaith y mae'r sŵn yn ei chael arnoch chi.

Dyma ein proses ni:

  1. Os yw un o breswylwyr Melin yn gwneud sŵn sy’n achosi niwsans i chi, y peth cyntaf y dylech eich wneud yw cysylltu â ni trwy ein canolfan cyswllt cwsmeriaid.
  2. Bydd ein Tîm Cyswllt Cwsmeriaid yn rhoi gwybod i'n tîm Diogelwch Cymunedol am y materion yr ydych wedi rhoi gwybod amdanynt.
  3. Yna bydd aelod o'r tîm Diogelwch Cymunedol yn cysylltu â chi eto i drafod eich pryderon ac i gytuno ar gynllun gweithredu fel ffordd ymlaen.
  4. Efallai y bydd angen i ni gasglu mwy o wybodaeth am y sŵn sy’n achosi aflonyddwch, felly, efallai y byddwn yn gofyn i chi lawr lwytho a defnyddio’r Ap Sŵn i recordio’r sŵn os bydd unrhyw achosion pellach.
  5. Efallai y gofynnir i chi gyflwyno recordiadau sŵn am bythefnos, yna bydd y recordiadau hyn yn cael eu hadolygu gan ein tîm diogelwch cymunedol. Os bydd digwyddiad difrifol yn ystod y pythefnos hwnnw, byddwn yn adolygu'r recordiadau yn gynt.

Sylwer: Ni fydd cyfrif eich Ap Sŵn yn cael ei actifadu tan eich bod wedi dilyn y broses hon a rhoi gwybod yn uniongyrchol i ni am achos o sŵn sy’n achosi niwsans i chi.

Sŵn a cherddoriaeth uchel

Bydd Melin yn ystyried bod sŵn sy’n achosi niwsans yn ymddygiad gwrthgymdeithasol, pan ystyrir ei fod yn annerbyniol, yn rhy uchel, ac yn sŵn parhaus, y byddai’r mwyafrif o bobl yn ei ystyried yn afresymol.

I weld a yw hyn yn wir, mae'n ddefnyddiol gofyn y cwestiynau canlynol i chi'ch hun:

  • Ydy’r sŵn yn uchel, a/neu a oes ganddo ryw ansawdd arall sy'n ei wneud yn annifyr?
  • Ydy’r sŵn yn digwydd yn aml a pha mor hir mae e'n parhau fel arfer?
  • Ydy’r sŵn yn digwydd ar adegau afresymol, fel yn gynnar iawn yn y bore neu'n hwyr yn y nos?
  • Ydy’r sŵn o ganlyniad ymddygiad afresymol ac a yw’r broblem yn hawdd ei chywiro?
  • Ydy'r sŵn yn deillio o ymddygiad arferol?
  • A allai'r broblem wirioneddol fod oherwydd inswleiddio gwael rhwng yr eiddo?
  • Yn hollbwysig, a fyddai person rhesymol yn ystyried y sŵn yn niwsans, ar ôl ystyried yr amgylchiadau?
  • Cyn rhoi gwybod i Melin am y sŵn, rydym yn awgrymu eich bod yn cael gair bach cyfeillgar gyda’ch cymydog yn gyntaf. Efallai nad ydynt yn gwybod eich bod yn eich styrbio. Rydym wedi paratoi rhai awgrymiadau i'ch helpu i ddatrys problemau gyda chymdogion.

Os ydych chi'n dal i deimlo eich bod yn cael eich styrbio, rydym yn awgrymu eich bod yn cysylltu â thîm iechyd yr amgylchedd yr awdurdod lleol. Os byddant yn cymryd camau gorfodi, byddem yn ystyried cymryd camau cymesur yn erbyn y rhai a gyhuddir o achosi'r sŵn.

O ran yr achosion nad ydynt yn cael eu hystyried yn ymddygiad gwrthgymdeithasol (er enghraifft, rhoi gwybod am sŵn am y tro cyntaf neu achosion unigol) a lle nad yw'r sefyllfa wedi gwella, gall cyfryngu fod o gymorth i chi. Mae'n wasanaeth anffurfiol, cyfrinachol ac annibynnol sydd ar gael i helpu cymdogion i ddatrys eu gwahaniaethau a dod i gytundeb. Gallant eich helpu chi a'ch cymydog/cymdogion ddeall safbwynt eich gilydd a dod o hyd i ateb. Gofynnwch a gallwn eich cyfeirio.

Cymdogion yn gweiddi neu'n dadlau

Ni fyddem fel arfer yn ystyried bod hyn yn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Cyn rhoi gwybod am y digwyddiad, ac os yw’n teimlo’n ddiogel i wneud hynny, ystyriwch y canlynol:

  • Cael gair cyfeillgar gyda'ch cymydog, oherwydd efallai nad ydynt yn sylweddoli eich bod yn gallu eu clywed.
  • Os nad yw hyn yn gweithio, neu os nad ydych yn teimlo ei bod yn ddiogel i gysylltu â'ch cymydog yn uniongyrchol, rydym yn eich cynghori i gysylltu â Melin, fel y gallwn ymchwilio i weld a yw'r sŵn yn ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Os ydych yn amau y gallai un neu fwy o aelodau o'r aelwyd fod mewn perygl ar y pryd, neu os ydych yn gofidio am les unrhyw un yn yr eiddo, cysylltwch â'r heddlu.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â lles, cysylltwch â ni am fwy o gyngor ac arweiniad.

Plant a phobl ifanc yn chwarae

Ni fyddem yn ystyried bod hyn yn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae gan bobl ifanc yr hawl i chwarae a chymdeithasu â phobl ifanc eraill; Mae chwarae yn hanfodol i ddatblygiad plentyn a dylid ei annog.

Nid yw pêl-droed a gemau pêl yn wrthgymdeithasol nac yn anghyfreithlon. Mae arwyddion “Dim gemau pêl” mewn mannau cyhoeddus yn gais, nid is-ddeddf – ni ellir eu gorfodi.

Babanod yn crio

Ni fyddem yn ystyried bod hyn yn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Fodd bynnag, os ydych chi'n teimlo bod risg i'r plentyn/plant, rhowch wybod i'r heddlu ar unwaith.

Ci yn cyfarth

Mae'n naturiol i gŵn cyfarth. Er, gall fod yn annifyr ac yn ofidus pan fydd yn digwydd yn aml ac am gyfnodau hir o amser. Nid yw cyfarth yn cael ei ystyried yn ymddygiad gwrthgymdeithasol heblaw ei fod yn barhaus. Mae hyn yn golygu bod angen i'r sŵn fod yn ddigwyddiad sy’n digwydd yn aml, yn ddyddiol, gyda’r cyfarth yn digwydd am gyfnodau parhaus.

Byddem yn awgrymu eich bod yn ceisio siarad â'ch cymydog yn gyntaf. Efallai nad ydynt yn sylweddoli bod eu ci yn achosi aflonyddwch (yn enwedig os nad ydynt gartref yn ystod y dydd pan fydd y ci yn cyfarth).

Os nad ydych yn teimlo'n ddigon cyfforddus i siarad â’ch cymydog, neu os ydych wedi ceisio, ond nid yw'r sefyllfa wedi gwella, dylech gysylltu â thîm iechyd yr amgylchedd eich awdurdod lleol.

Os nad yw'r cyfarth yn cael ei ystyried yn ymddygiad gwrthgymdeithasol, gallwn gynnig i’ch cyfeirio chi a'ch cymydog at ein gwasanaeth cyfryngu cyfrinachol i'ch helpu i ddod o hyd i ateb adeiladol a chyfeillgar.

Os oes gennych bryderon am les anifail anwes, dylech gysylltu â'r RSPCA.

DIY/gwaith i wella’r cartref

Ni fyddem fel arfer yn ystyried y math yma o sŵn yn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Cyn rhoi gwybod am y digwyddiad, ac os yw’n teimlo’n ddiogel i wneud hynny, ystyriwch gael gair cyfeillgar gyda'ch cymydog. Efallai nad yw’n sylweddoli eich bod yn gallu clywed y sŵn.

Os nad yw hyn yn gweithio, neu os nad ydych yn teimlo'n ddigon cyfforddus i siarad â’ch cymydog, rydym yn eich cynghori i gysylltu â Melin neu dîm iechyd yr amgylchedd eich awdurdod lleol, fel y gellir ymchwilio i weld a yw'r sŵn yn ymddygiad gwrthgymdeithasol

Bywyd yn gyffredinol

Ni fyddem fel arfer yn ystyried hyn yn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae 'bywyd yn gyffredinol' yn cynnwys synau fel agor/cau drysau, hwfro, ôl traed, sgwrsio yn gyffredinol, defnyddio offer fel peiriant golchi dillad.

Efallai y byddwch am siarad â'ch cymydog oherwydd efallai nad yw’n sylweddoli eich bod yn gallu eu clywed.

Partis a Barbeciws

Ni fyddem yn ystyried partis neu farbeciws unigol yn ymddygiad gwrthgymdeithasol, cyn belled nad ydynt yn achosi gormod o sŵn yn ystod oriau anghymdeithasol.

Byddem yn awgrymu eich bod yn cael gair cyfeillgar gyda'ch cymydog yn gyntaf oherwydd efallai nad oedd yn sylweddoli ei fod yn eich styrbio.