Cysylltu â ni
Os oes angen i chi gysylltu â ni ynglŷn ag unrhyw faterion y gallwn ni ddelio â nhw, edrychwch ar ein tudalen am ffyrdd o gysylltu â ni.
Yn ôl i Ymddygiad gwrthgymdeithasol
Dyma rai cysylltiadau defnyddiol y gallech chi fod eu hangen.
Mae CrimeStoppers yn elusen annibynnol sy'n rhoi'r pŵer i bobl siarad am drosedd - 100% yn ddienw. Ffoniwch nhw ar 0800 555 111 neu ewch i wefan Crimestoppers am ragor.
ewch i wefan Connect Gwent am fwy.
Mae ASB Help yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr a sefydlwyd i ddarparu cyngor a chymorth i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ewch i wefan ASB Help am ragor.
Gall Cymorth i Ddioddefwyr ddarparu cefnogaeth emosiynol a chymorth ymarferol cwbl gyfrinachol. Ffoniwch 0808 16 89 111 neu ewch i wefan Cymorth i Ddioddefwyr am fwy.
Gall Byw Heb Ofn roi help a chyngor i:
Ffoniwch Linell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800 neu ewch i wefan Llywodraeth Cymru i gael rhagor o wybodaeth.
Os ydych chi'n dioddef aflonyddu, bygwth neu os yw rhywun yn ymddwyn yn ymosodol tuag atoch yn seiliedig ar eich cenedligrwydd, tarddiad ethnig, lliw, credoau gwleidyddol neu grefyddol, rhywioldeb, oedran neu anabledd, yna rydych chi'n profi trosedd casineb.
I gael cymorth i ddelio â throsedd casineb, ewch i wefan Dewis Cymru.
P'un a ydych chi’n ddioddefwr trosedd casineb, tyst, neu ffrind neu berthynas, dylech bob amser riportio — neu annog y dioddefwr i riportio — unrhyw ddigwyddiad trosedd casineb.
Cysylltwch â Stop Hate UK, ffoniwch yr heddlu ar 101 neu ewch ati i’w riportio i'r heddlu ar-lein.
Mewn argyfwng ffoniwch 999 bob amser.
Mae'r Gynghrair Gwrth-fwlio yn grŵp o sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio gyda'i gilydd i atal bwlio. Maen nhw’n ceisio creu amgylcheddau diogel lle gall plant a phobl ifanc fyw, tyfu, chwarae a dysgu. Maen nhw’n darparu cyngor ac arbenigedd mewn perthynas â phob math o fwlio rhwng plant a phobl ifanc.
Mae Family Lives yn cynnig gwybodaeth benodol am beth yw seiberfwlio, a beth i'w wneud amdano.
Nod Cyngor ar Bopeth yw darparu cyngor annibynnol, cyfrinachol a diduedd yn rhad ac am ddim. Gall hyn fod mewn unrhyw ran o'ch bywyd. Mae Cyngor ar Bopeth eisiau helpu gyda'r problemau mae pobl yn eu hwynebu. Mae hefyd am wella'r polisïau a'r arferion sy'n effeithio ar fywydau pobl.
Mae The Cybersmile Foundation yn elusen sy'n llawn gwybodaeth i helpu pobl i fynd i'r afael â phob math o gam-drin digidol a bwlio ar-lein.
Mae’r Llinell Gymorth Trais Domestig Genedlaethol yn wasanaeth cenedlaethol sy'n cael ei redeg mewn partneriaeth rhwng Cymorth i Ferched a Refuge i fenywod sy'n profi trais domestig a'u teulu, ffrindiau, cydweithwyr ac eraill sy'n galw ar eu rhan.
Mae’r Llinell Gymorth Stelcian Genedlaethol yn rhif llinell gymorth i'w ffonio ac yn wefan gyda chyngor, gwybodaeth ac astudiaethau achos o bobl eraill sy'n dioddef stelcian. Darparwyd gan y Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh.
Mae Gwarchod Cymdogaeth yn darparu newyddion gan wahanol Gynlluniau Gwarchod Cymdogaeth lleol. Gallwch fewnbynnu eich cod post i ddod o hyd i'ch cynlluniau Gwarchod Cymdogaeth, Gwarchod Cartrefi a Phatrôl Dinasyddion. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth am sut i sefydlu eich cynllun eich hun.
Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn elusen genedlaethol sy'n rhoi cymorth cyfrinachol yn rhad ac am ddim i ddioddefwyr trosedd, tystion, eu teulu, ffrindiau, ac unrhyw un arall sy’n cael eu heffeithio ledled Cymru a Lloegr. Maen nhw’n gweithio drwy swyddfeydd lleol. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael eu cyfeirio atynt gan yr heddlu yn dilyn trosedd, ond gellir cysylltu â nhw'n uniongyrchol trwy eu llinell gymorth ar 0845 30 30 900.
Ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd yr amgylchedd (gan gynnwys sŵn), cysylltwch â'ch awdurdod lleol perthnasol.
Mae diogelu yn ymwneud â diogelu hawl oedolyn, person ifanc neu blentyn i fyw'n ddiogel, heb gamdriniaeth ac esgeulustod. Mae hefyd yn ymwneud â gwneud cymaint â phosibl i atal cam-drin rhag digwydd trwy godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth.
Mae diogelu yn fater i bawb.
Os oes gennych bryderon neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol.
Mewn argyfwng, peidiwch ag aros, ffoniwch 999.
Os ydych chi’n amau bod plentyn yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu fod plentyn yn dweud wrthych chi eu bod nhw’n cael eu cam-drin, cysylltwch ar 01495 762200 (neu 0800 328 4432 ar gyfer argyfyngau y tu allan i oriau swyddfa) a dwedwch wrthynt ei fod yn atgyfeiriad Amddiffyn Plant.
Ffôn: 01495 762200
E-bost: socialcarecalltorfaen@torfaen.gov.uk
Ffacs: 01633 648794
Os oes gennych chi bryderon am blentyn, cysylltwch â swyddog dyletswydd gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Casnewydd ar unwaith ar 01633 656656 neu'r tîm cyswllt mewn argyfwng ar 0800 328 4432.
Am bryderon am oedolion sydd mewn perygl ac i gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Diogelu Gwent.
Ar gyfer pryderon amddiffyn plant, ffoniwch 01291 638928 neu e-bostiwch: monpovaduty@monmouthshire.gcsx.gov.uk
Os yw'n argyfwng a bod angen i chi gysylltu â Sir Fynwy y tu allan i oriau swyddfa ffoniwch y Tîm Dyletswydd Brys ar 0800 328 4432.
Ar gyfer Diogelu Oedolion ffoniwch 01873 735492 neu e-bostiwch mccadultsafeguarding@monmouthshire.gov.uk. Os yw y tu allan i oriau swyddfa neu ar gyfer Gwyliau Banc, rhif y Tîm Dyletswydd Brys yw 0800 328 4432.
Am bryderon, ffoniwch 01495 315700 neu e-bostiwch dutyteam@blaenau-gwent.gcsx.gov.uk
Os oes gennych chi unrhyw bryderon neu amheuon, gallwch gysylltu â Chyngor Powys 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, drwy e-bost csfrontdoor@powys.gov.uk neu drwy ddefnyddio eu ffurflen adrodd ar-lein. (Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i adrodd ar unrhyw adeg, ond dim ond yn ystod oriau swyddfa y bydd yn cael ei godi).
Ffôn 01597 827666 (dydd Llun i ddydd Iau 8.45am–4.45pm a dydd Gwener 8.45am–4.15pm)
Ar gyfer y tu allan i oriau arferol, ffoniwch 0845 054 4847.
Os oes angen i chi gysylltu â ni ynglŷn ag unrhyw faterion y gallwn ni ddelio â nhw, edrychwch ar ein tudalen am ffyrdd o gysylltu â ni.
Mae diogelu yn ymwneud â diogelu hawliau oedolyn, person ifanc neu blentyn i fyw'n ddiogel, heb gamdriniaeth ac esgeulustod.