Polisi Cwcis This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.
Tudalen Breifatrwydd

Yn ôl i Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Datrys anghydfodau rhwng cymdogion

Canllaw cam wrth gam

Nid yw anghydfodau rhwng cymdogion yn anghyffredin ac maent yn digwydd o bryd i'w gilydd. Rydym wedi dod o hyd i'r ffordd orau i gwsmeriaid fynd i'r afael â hyn, sef, siarad â’ch cymydog. Os yw hynny’n teimlo braidd yn frawychus, dyma ychydig o gyngor ar sut i fynd ati.

Yn gyntaf, efallai nad yw eich cymydog yn sylweddoli ei fod yn achosi problem. Os ewch ato yn bwyllog, a thrafod yr hyn sy’n eich gwylltio, efallai y bydd yn deall yn iawn.

Fel arfer mae hyn yn llawer gwell na gadael i bethau gronni a dechrau gweiddi, neu ysgrifennu llythyrau blin, pan allai popeth fod wedi cael ei ddatrys yn hawdd.

Cyngor cyn mynd at gymydog

  • Byddwch yn barod, meddyliwch am yr hyn rydych chi am ei ddweud.
  • Cadwch y neges yn syml er mwyn osgoi unrhyw gamddealltwriaeth.
  • Cadwch at y pwynt a cheisiwch beidio â mynd ar drywydd pynciau eraill.
  • Cynlluniwch pa fath o ateb yr hoffech chi yn dilyn y drafodaeth a gwnewch hynny'n glir.
  • Byddwch yn barod i fod yn hyblyg.
  • Dewiswch foment dda – i chi a'ch cymydog, pan nad oes unrhyw beth yn mynd a’i sylw.
  • Dewiswch amser pan nad ydych chi'n teimlo'n ddig.
  • Cyn i chi siarad â'ch cymydog, ceisiwch siarad â pherson arall e.e. ffrind neu rywun yr ydych yn ei adnabod i ymarfer yr hyn rydych chi'n bwriadu ei ddweud.
  • Rhowch rywfaint o ystyriaeth i ba oedolyn yng nghartref eich cymydog y byddai'n well gennych siarad ag ef.
  • Os ydych chi'n teimlo'n fwy hyderus, rhowch llythyr i'ch cymydog neu ei bostio drwy ei flwch llythyrau
Rhai awgrymiadau defnyddiol yn ystod y drafodaeth hon
  • Cadwch yn ddigynnwrf a chyfeillgar.
  • Esboniwch y broblem yn glir a sut mae ymddygiad y person arall yn effeithio ar eich bywyd.
  • Rhowch gyfle i'ch cymydog ateb ac egluro ei ochr ef.
  • Ceisiwch beidio â thorri ar draws y person arall pan fyddant yn siarad.
  • Peidiwch â cheisio gweiddi ar eich cymydog i wneud pwynt na bod yn ymosodol. Pegiwch ag ymosod yn bersonol ar gymeriad y person arall.
  • Cadwch at y broblem dan sylw – ceisiwch beidio â llusgo rhestr gyfan o faterion o'r gorffennol.
  • Awgrymwch ateb bob amser os ydych chi'n credu bod yna ateb, a byddwch yn hyblyg lle bo hynny'n bosibl.
  • Os bydd y drafodaeth yn arwain at ddadl, mae'n debyg mai'r peth gorau yw tynnu'n ôl ar yr adeg honno.
  • Os ydych chi'n teimlo'n bryderus am ymddygiad ymosodol neu fygythiol, rhowch ddiwedd ar y drafodaeth yn gwrtais a chysylltwch â ni i gael cyngor pellach.

Yn aml nid yw'n bosibl i ni ddatrys anghydfodau ar ran cymdogion, yn enwedig os yw'r anghydfod yn ymwneud â ffordd o fyw, sŵn ym mywyd bob dydd, anghydfodau’n ymwneud â ffiniau neu hyd yn oed anifeiliaid anwes. Fodd bynnag, os oes anghydfodau parhaus neu anghydfodau na all y partïon dan sylw eu datrys, byddwn yn ystyried eich atgyfeirio at wasanaeth cyfryngu annibynnol.

Cyfryngu

Os ydych chi'n teimlo na ellir datrys pethau, neu os yw eich trafodaethau gyda’ch cymydog wedi chwalu, gallwn gynnig cymorth gan y gwasanaeth cyfryngu, lle gall person annibynnol hyfforddedig eich helpu i ddatrys eich anghydfod.

Beth yw cyfryngu?

Mae cyfryngu yn ffordd effeithiol o ddatrys anghydfodau rhwng eich gilydd. Bydd cyfryngwr yn trafod y broblem gyda chi a’ch cymydog, i’ch helpu chi i gyd i ddod i gytundeb. Gall fod yn effeithiol iawn mewn sawl sefyllfa, yn cynnwys anghydfodau’n ymwneud â ffiniau, sŵn, parcio, anifeiliaid anwes neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Pwy sy'n rhedeg y sesiynau cyfryngu?

Mae sesiynau'n cael eu rhedeg gan gyfryngwyr hyfforddedig sy'n annibynnol ar Gartrefi Melin. Maent yn gwbl niwtral ac yn gweld y ddwy ochr. Maent yn eich helpu i gyfathrebu â'ch gilydd, egluro'r materion, archwilio atebion a dod i gytundeb ar gyfer y ffordd ymlaen.

Sut mae cyfryngu yn helpu?

  • Gellir ei drefnu'n gyflym.
  • Mae'n rhoi cyfle i chi ddweud eich barn am y sefyllfa, i fod yn agored ac yn onest.
  • Gallwch wneud eich awgrymiadau eich hun.
  • Gallwch weithio allan eich atebion eich hun.

Mae cytuno i fod yn rhan o'r broses gyfryngu yn dangos eich bod wedi ymrwymo i ddatrys materion mewn ffordd gadarnhaol.