Polisi Cwcis This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.
Tudalen Breifatrwydd

Yn ôl i Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Bygythiadau a thrais

Aflonyddu

Mae aflonyddu yn cynnwys bygwth a cham-drin geiriol.

Os yw'r ymddygiad o natur droseddol (er enghraifft, bygythiad o drais yn eich erbyn) mae angen i chi roi gwybod i'r heddlu ar unwaith. Mae'n rhaid i chi hefyd roi gwybod iddynt os ydych yn pryderu am eich diogelwch neu ddiogelwch pobl eraill.

Ar ôl i chi rhoi gwybod i’r heddlu, cysylltwch â ni i roi manylion y digwyddiad, rhif digwyddiad yr heddlu ac enw’r swyddog sy’n delio â’r mater. Yna, byddwn yn penderfynu a allwn ni gymryd camau. Os yw'r ymddygiad wedi bod yn digwydd ers amser, gwnewch nodyn o ddigwyddiadau yn y gorffennol fel y gallwn edrych ar batrwm yr ymddygiad.

Os ydych am roi gwybod am ymddygiad troseddol yn ddienw, cysylltwch â Crimestoppers ar 0800 555 111.

Ni fyddai digwyddiadau unigryw fel syllu neu dynnu wynebau yn cael eu hystyried yn aflonyddu neu’n ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Cyfryngau cymdeithasol

Mae pobl yn cael lleisio eu barn ar gyfryngau cymdeithasol yn yr un modd ag y byddent ar lafar. Nid yw'r ffaith eich bod yn anghytuno â'u barn (yn enwedig os ydyw amdanoch chi'n bersonol) yn golygu bod hyn yn ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu’n drosedd, neu bod achos i’r heddlu weithredu. Fodd bynnag, mae gwahaniaeth rhwng rhywun sydd yn bod yn anghwrtais, yn ddadleuol neu’n meddu ar safbwynt gwahanol i’ch un chi, â derbyn bygythiadau neu gamdriniaeth wedi ei dargedu.

Yn dibynnu ar amgylchiadau a natur y negeseuon, efallai y byddwch am ddelio â hyn eich hun, drwy ‘digyfeillio’, ‘rhwystro’ neu ‘beidio â dilyn’ y person hwnnw, fel na fyddwch yn cael unrhyw gysylltiad pellach â nhw. Gallwch hefyd ei adrodd i'r rhwydwaith cymdeithasol perthnasol. Mae gan bob un ohonynt dudalen cymorth a chyngor ar sut i ddelio â chyswllt diangen neu roi gwybod am negeseuon anghymdeithasol.

Os yw person yn anfon negeseuon bygythiol/ymosodol / sarhaus iawn at berson arall drwy Facebook, Twitter neu X, neu unrhyw wefan rhwydweithio cymdeithasol arall, fe allent fod yn cyflawni trosedd. Y troseddau mwyaf perthnasol yw ‘aflonyddu’ a ‘chyfathrebu maleisus’.

Os ydych wedi derbyn unrhyw negeseuon bygythiol/ymosodol / sarhaus trwy wefan rhwydweithio cymdeithasol ac yn credu y gallent hon fod yn drosedd, gallwch roi gwybod i'r heddlu ar 101. Os yw'r negeseuon a gawsoch wedi dod gan un o breswylwyr Melin, gallwch roi gwybod i ni unwaith y bydd yr heddlu wedi cael gwybod.

Trosedd gasineb

Trosedd gasineb yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio digwyddiad neu drosedd yn erbyn rhywun yn seiliedig ar ran o'u hunaniaeth. Mae dioddefwyr troseddau a digwyddiadau casineb yn cael eu targedu oherwydd pwy ydyn nhw neu hyd yn oed oherwydd bod rhywun yn meddwl eu bod yn perthyn i grŵp penodol.

Digwyddiad casineb yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio digwyddiad nad yw’n drosedd, sy'n cael ei ystyried gan y dioddefwr neu unrhyw berson arall, fel un sy’n cael ei ysgogi gan elyniaeth neu ragfarn yn seiliedig ar unrhyw un o'r llinynnau troseddau casineb. Gall digwyddiadau casineb deimlo fel troseddau i'r rhai sy'n eu hwynebu, ac yn aml gallant gynyddu i droseddau neu densiwn mewn cymuned.

Troseddau cyfeillio. Dyma derm weddol newydd sydd fel arfer yn golygu cyfeillio pobl sy’n fregus er mwyn cymryd mantais ohonynt, cam-fanteisio arnynt neu eu cam-drin. Caiff ei ystyried yn fath o drosedd casineb sy’n ymwneud ag anabledd neu oedran ond gall hefyd fod yn debyg i achosion o gam-drin domestig neu drais. Mae dioddefwyr troseddau cyfeillio yn aml yn fregus oherwydd anableddau dysgu, problemau iechyd meddwl neu salwch, neu oedran (targedu pobl hŷn neu iau sy’n fregus).

Ni fydd pob digwyddiad casineb yn arwain at achos o drosedd, ond mae'n hanfodol bod unrhyw droseddau casineb yn cael eu hadrodd i’r heddlu er mwyn eu cofnodi. Os ydych wedi dioddef trosedd casineb, cysylltwch â'r heddlu ar unwaith a rhowch wybod am y digwyddiad. Rhowch wybod i ni hefyd am y digwyddiad hwn gan roi unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd gennych.

Pan fyddwch chi'n rhoi gwybod i ni am ddigwyddiad trosedd casineb, mae eich disgrifiad chi o’r digwyddiad yn bwysig iawn. Mae trosedd casineb yn drosedd bersonol iawn a gall arwain at ganlyniadau dinistriol. Byddwn yn cymryd gofal mawr wrth wrando ar eich atgofion o'r digwyddiad, ac ni fyddwn yn barnu nac yn rhagdybio. Os ydym yn gwybod am asiantaeth sy’n cynnig cefnogaeth a fyddai'n gallu eich helpu, byddwn bob amser yn trafod hyn gyda chi yn gyntaf ac yn gofyn eich caniatâd cyn atgyfeirio. Ni fyddwn yn gwneud unrhyw beth heb eich caniatâd ymlaen llaw, oni bai ein bod yn teimlo bod perygl yn y fan a’r lle i'ch diogelwch chi, neu i ddiogelwch rhywun arall.